SL(6)381 – Rheoliadau Pensiynau Diffoddwyr Tân (Gwasanaeth Rhwymedïol) (Cymru) 2023

Cefndir a diben

Mae Deddf Pensiynau’r Gwasanaethau Cyhoeddus a Swyddi Barnwrol 2022 (“Deddf 2022”) yn gwneud darpariaeth i ymdrin â gwahaniaethu ar sail oedran yng nghynlluniau pensiwn y gwasanaethau cyhoeddus. Gwnaed Deddf 2022 yn dilyn canfyddiad yn achos yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Adran Gartref a Gweinidogion Cymru v Sargeant ac Eraill [2018] EWC Civ 2844 fod diogelwch trosiannol mewn cynlluniau pensiwn diwygiedig i ddiffoddwyr tân yn gwahaniaethu’n anghyfreithlon ar sail oedran. O ran Cymru, roedd y darpariaethau hynny wedi eu nodi yn Rheoliadau Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2015.

Gweithredwyd cam cyntaf y rhwymedi a nodir yn Neddf 2022 gan Reoliadau Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) (Diwygio) 2022 (O.S. 2022/343 (Cy. 85)).

Mae’r rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer gweithredu ail gam y rhwymedi a nodir yn Neddf 2022.

Y weithdrefn

Negyddol.

Gwnaed y Rheoliadau gan Weinidogion Cymru cyn iddynt gael eu gosod gerbron y Senedd.  Gall y Senedd ddirymu'r Rheoliadau o fewn 40 diwrnod (ac eithrio unrhyw ddyddiau pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu neu (ii) mewn cyfnod o doriad am fwy na phedwar diwrnod) i'r dyddiad y’u gosodwyd gerbron y Senedd.

Materion technegol: craffu

Nodir y pwyntiau a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

1.    Rheol Sefydlog 21.2(vii) – ei bod yn ymddangos bod anghysondebau rhwng ystyr testun Cymraeg a thestun Saesneg yr offeryn

Yn nhestun Cymraeg rheoliad 23(2)(b), ymddengys y dylai “a'r swm amgen” ddweud “ac mae'r swm amgen”.

Ymddengys fod testunau Cymraeg a Saesneg rheoliad 29(1)(a) yn wahanol – ymddengys fod y testun Cymraeg yn gywir gan ei fod yn cyfeirio’n benodol at ysgariad neu ddirymiad A.

Yn nhestun Cymraeg rheoliad 39(2), ymddengys y dylai “pe bai'r hawliau hynny” ddweud “pe bai'r hawliau hynny wedi bod”.

Yn nhestun Cymraeg rheoliad 41(4), ymddengys y dylai “adran 89(1)” ddweud “adran 86(1)”.

Ymddengys fod testunau Cymraeg a Saesneg rheoliad 46 yn wahanol. Ar ddiwedd y rheoliad, mae’r testun Cymraeg yn cyfeirio at yr amod nad yw’r dyddiad perthnasol yn hwyrach na 1 Hydref 2024, tra bo’r testun Saesneg yn cyfeirio at yr amod bod y dyddiad perthnasol yn hwyrach na 1 Hydref 2024.

Yn nhestun Cymraeg rheoliad 65(4), ymddengys y dylai “gwasanaeth adferadwy” ddweud “gwasanaeth rhwymedïol”.

2.    Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â'i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol

Diffinnir y term “diwedd y cyfnod dewisiad adran 6” mewn troednodyn i reoliad 10(5) drwy gyfeirio at Ddeddf 2022. Fodd bynnag, defnyddir y term “diwedd y cyfnod dewisiad adran 6” gyntaf yn rheoliad 4(4)(a), heb gyfeirio’r darllenydd at ble mae dod o hyd i’r diffiniad.

Gofynnir i Lywodraeth Cymru esbonio pam nad yw’r troednodyn sy’n cynnwys y diffiniad wedi’i gynnwys yn rheoliad 4(4)(a) i gyd-fynd â’r cyfeiriad cyntaf at “diwedd y cyfnod dewisiad adran 6”.  

3.    Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod y gwaith drafftio yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol

Yn rheoliad 22(2), mae geiriau cloi’r diffiniad o “swm cynllun gwaddol” yn cyfeirio at “adran 29(2)” ond nid yw’n glir at ba ddeddfwriaeth y mae’n cyfeirio.

4.    Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â'i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol

Mae rheoliad 32 yn gwneud darpariaeth ar gyfer trefniadau rhwymedïol i dalu cyfraniadau gwirfoddol. Caiff aelod rhwymedi ymrwymo i gytundeb i dalu cyfraniadau gwirfoddol i gynllun gwaddol yr aelod ar gyfer buddion ychwanegol (gweler rheoliad 32(2)). Mae rheoliad 32(3)(b) yn nodi na chaiff yr aelod ond ymrwymo i gytundeb o’r fath os (ymhlith materion eraill):

“yw’r rheolwr cynllun wedi ei fodloni ei bod yn fwy tebygol na pheidio y byddai A, yn ystod cyfnod gwasanaeth rhwymedïol A, oni bai am achos perthnasol o dorri rheol peidio â gwahaniaethu, wedi ymrwymo i’r un trefniant neu i drefniant tebyg,”

Nid yw’n glir o’r ddarpariaeth sut y mae’r rheolwr cynllun i’w fodloni mai dyma’r sefyllfa, a pha faterion a fyddai’n dueddol o fodloni rheolwr cynllun ynghylch y sefyllfa. Nodwn y gofyniad yn rheoliad 32(4)(b) i ddarparu unrhyw wybodaeth y mae’r rheolwr cynllun yn rhesymol yn ei gwneud yn ofynnol ei darparu iddo. Fodd bynnag, nid yw hyn yn egluro’r amgylchiadau a fyddai’n caniatáu i’r rheolwr cynllun wneud y penderfyniad hwn, dim ond y bydd angen yr wybodaeth i ganiatáu i hynny ddigwydd.

Rhinweddau: craffu    

Nodir y pwyntiau a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

5.    Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd

Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Hydref 2023. Fodd bynnag, maent yn gwneud darpariaeth ôl-weithredol. Mae paragraff 2.2 o'r Memorandwm Esboniadol yn nodi:

“2.2      Mae'r Rheoliadau hyn … yn gwneud darpariaeth ôl-weithredol o ganlyniad i'r dychweliad ôl-weithredol i gynlluniau pensiwn gwaddol ar gyfer gwasanaeth rhwymedïol diffoddwyr tân o dan adran 2(1) o [Ddeddf 2022]. Gwneir darpariaeth ôl-weithredol yn y Rheoliadau hyn yn unol ag adran 3(3)(b) o Ddeddf Pensiynau’r Gwasanaethau Cyhoeddus 2013…”

6.    Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth dechnegol gymhleth ynghylch pensiynau diffoddwyr tân. Nodir y gellid bod wedi gwneud mwy i wneud y Rheoliadau hyn yn hygyrch i'r darllenydd.

Er enghraifft, mae Rhan 4 o'r Rheoliadau yn cyfeirio droeon at “DDLlPh 1999”. Y tro cyntaf y defnyddir y term hwn, mae troednodyn yn dweud wrth y darllenydd mai ystyr “DDLlPh 1999”, yn unol â’r diffiniad o “WRPA 1999” yn adran 110(1) o Ddeddf 2022, yw Deddf Diwygio Lles a Phensiynau 1999. Gan ei bod yn ymddangos bod y Ddeddf hon yn ganolog i ddehongli Rhan 4 o’r Rheoliadau hyn, byddai’n fwy hygyrch pe bai “DDLlPh 1999” wedi’i ddiffinio yn y Rheoliadau eu hunain.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

19 Medi 2023